top of page

Gwella Cymunedau Cymraeg trwy Ddeunyddiau Adeiladu o Safon

Mae Adra wedi sefydlu Ffrâm24, Fframwaith Cymru Gyfan i gyflenwi deunyddiau adeiladu a chynhyrchion cysylltiedig. Mae Ffrâm24 yn fframwaith sy’n cynnwys sawl cyflenwr i ddarparu deunyddiau adeiladu a gwasanaethau cysylltiedig.

 

Ein huchelgais fel Fframwaith Cymru yn unig yw darparu cadwyn cyflenwi o safon ar gyfer sefydliadau Cymru a chynorthwyo ein cymunedau drwy hynny. Mae hyn yn darparu Cymru gydag economi gylchol a chadw’r bunt yn lleol i Gymru. Mae gwerthoedd y Fframwaith ar sail ymddiriedaeth, bod yn agored, arloesi, ac effeithlonrwydd.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r Fframwaith newydd ac yn ei gefnogi fel olynydd naturiol i fframwaith deunyddiau adeiladu ‘National Procurement Service’ (NPS), a fydd dal yn cynnig cyfleoedd i gyflenwyr lleol a chefnogi amcanion polisi Llywodraeth Cymru.

 

Bydd y Fframwaith newydd yn ffurfio rhan o hwb Caffael Cydweithredol Cymru. Bydd y Fframwaith ar agor i’w ddefnyddio gan ystod eang o gyrff sector cyhoeddus ar hyd a lled Cymru. Bydd y fframwaith yn cefnogi ystod eang o fodelau cyflenwi gwasanaeth sydd o bosib eu hangen i ddiwallu gofynion cyflenwi deunyddiau aelodau’r fframwaith

Ein Gwerthoedd

OUR VALUES

Rydym yn mabwysiadu dull 360 rhwng y Fframwaith, Aelodau a Chyflenwyr sy’n cynnig cyfle arbennig ar draws Cymru ar gyfer cydweithredu. Byddwn hefyd yn gyrru cydweithredu ar gyfer gweithgynhyrchu yng Nghymru gyda chyflenwyr a’u cadwyn gyflenwi.

Screenshot 2024-11-01 151037.png

Manylion y Fframwaith

MAP 1 PNG.png
MAP 2 PNG.png
Details of the Framework

Lotiau

Cyflenwi holl ddeunyddiau adeiladu cyffredinol a gwasanaethau cysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i, agregau, brics, blociau, sment, plaster, pren, haen o ddeunyddiau amrywiol, inswleiddio, draenio uwchben ac o dan y ddaear, offer llaw a phŵer, drysau a llawer mwy. Mae gwasanaethau yn cynnwys rheoli stoc y fan, datrysiadau danfon a chasglu.

LOTS

Sut i gael mynediad at y Fframwaith

1. Cysylltu gyda ni

Cysylltwch gyda Ffrâm24 i drafod eich gofynion presennol.

 

2. Dod yn aelod Cwblhewch y Cytundeb Ymuno ar gyfer Ffrâm24.

Yn rhad ac am ddim i ymuno ac nid oes unrhyw daliadau na ffioedd.

 

3. Opsiynau caffael

 

Mae Ffrâm24 yn cynnig 4 cyfres o Delerau ac amodau.

 

Telerau ac Amodau Safonol: Holl aelodau i ymrwymo i’r Telerau ac Amodau Safonol wrth ymuno â’r fframwaith. Mae hyn yn golygu bod modd i chi gaffael unrhyw ddeunyddiau gydag unrhyw gyflenwr ar y fframwaith drwy’r telerau ac amodau hynny.

 

Telerau ac Amodau Gwasanaethau a gaiff ei Reoli: Mae aelodau yn cwblhau ac yn cytuno i’r Contract Gwasanaethau a gaiff ei Reoli yn ôl y gofyn gyda’r cyflenwr llwyddiannus i wasanaethu eu holl ofynion contract.

 

Telerau ac Amodau Uwch: Mae bob aelod yn gallu cwblhau Telerau ac Amodau Uwch gyda chyflenwr penodol i wasanaethu contractau neu brosiectau mwy. Gall aelodau wedyn ychwanegu gofynion penodol gyda’r cyflenwr, fel DPA (Dangosyddion Perfformiad Allweddol) ac adrodd ar wybodaeth rheoli.

 

Telerau ac Amodau Llogi: Mae pob aelod yn gallu llogi unrhyw Offer gyda chyflenwyr sydd wedi’u neilltuo i’r lot hon ar y telerau ac amodau hyn.

4. Proses Mae’r Fframwaith yn golygu bod gan yr aelodau’r dewis i:

How to access
  • Yn gymwys ar gyfer pob Parth a lot - (ac eithrio gwasanaethau a gaiff ei reoli)

  • Aelod yn darparu cwmpas gwaith manwl i’r cyflenwr

  • Cyflenwr yn cyflwyno cynnig i aelod Os yw’r aelod yn fodlon gyda’r cynnig, caiff y broses yn ôl y gofyn ei gytuno

  • Dyfarnu contract

Manylion Cyswllt

Cymerwch eiliad i lenwi'r ffurflen.

Thanks for submitting!

Contact Details
Untitled design (89).png

Pennaeth Ffrâm24
Martin Burger

© 2035 gan Adra Tai. Adeiladwyd a sicrhawyd gan Jordan Eadley. Wedi'i bweru gan Wix.

info@ffram24.co.uk

bottom of page